GWESTY'R MARINE ABERYSTWYTH

& FFLATIAU

Mwynhewch ramant machlud Bae Ceredigion yng Ngwesty'r Marine Aberystwyth, ble'r ydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob ymweliad yn un i'w gofio.

Mae Gwesty'r Marine yn westy mawr tair seren a redir gan deulu yn Aberystwyth, adeilad Fictorianaidd unigryw ar y Prom. Mae Nerys â'r teulu wedi bod yn berchen ar y gwesty ers dros 30 mlynedd ac yn ffodus iawn o gael teulu o staff sydd wedi bod gennym am flynyddoedd lawer. Ein nod yw sicrhau eich bod yn derbyn croeso Cymreig cynnes yng Ngwesty'r Marine.

Mae gennym chwedeg o ystafelloedd gwely a fflatiau wedi'u cynllunio'n unigol o fewn y gwesty a'r rheini yn amrywio o ystafelloedd Sengl, Dwbl neu Efell, ystafelloedd i'r Teulu yn cysgu rhwng 3 a 6 o bobl, i ystafelloedd Moethus gyda gwelyau pedwar postyn a bath jacwsi, ac ystafelloedd Hygyrch - mae gennym rywbeth i bawb yma yn y Marine! Mae llawer o'n hystafelloedd yn cynnig golygfeydd godidog o'r môr a Bae Ceredigion.

Yn ychwanegol at y prif westy, mae gennym adeilad ychwanegol o'r enw yr 'Atlantic' ble'r ydym yn cynnig ystafelloedd eang mawr - yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy'n teithio gyda theuluoedd mawr; aduniad ffrindiau neu'r rheini sydd eisiau lle ychwanegol yn ystod eich gwyliau. I'r rheini sydd eisiau moethusrwydd ystafell gwesty, ond gyda chyfleusterau ychwanegol i baratoi prydau syml, mae gennym ein 'Fflat-westy' arbennig.

Mae gennym fflatiau o fewn eiddo'r gwesty sy'n cysgu hyd at 8 o bobl, ac rydym yn datblygu Fflatiau newydd a fydd ar gael o fis Mawrth 2017.

Mae'r Gwesty wedi'i leoli ar y Prom yn Aberystwyth, tafliad carreg o Bier Aberystwyth a'r Bandstand, a 2 funud ar droed i Ganol y Dref a 10 munud ar droed i'r Orsaf Drenau.

CADW LLE AR-LEIN:

 

Archebu fel Grŵp - rydym yn argymell eich bod chi yn ein ffonio ni i drafod eich gofynion a gallwn gynnig y gyfradd orau i chi

 

WiFi am ddim ar gael.

Lifft i'r anabl ar y safle.

Croeso i anifeiliaid anwes.

Parcio am ddim ar gael.