01970 612 444
[email protected]
Mae ein hystafelloedd fflat-gwesty yn cynnig naws moethus gwesty, ynghyd ag adnoddau cegin cryno. Yn berffaith ar gyfer gwyliau teuluol, ychydig o ddiwrnodau i ffwrdd gyda ffrindiau, neu os ydych yn yr ardal ar fusnes.
Mae amrywiaeth o ystafelloedd o feintiau gwahanol ar gael, gyda golygfeydd gwych o’r môr, wedi’u lleoli o fewn pellter cerdded i ganol y dref. Fel gwestai byddwch yn cael y gorau o ddau fyd: preifatrwydd ac annibyniaeth cyfleusterau fflat, ynghyd â’r cysur a’r boddhad o aros mewn gwesty mawr.
Darperir oergell, sinc, popty, popty microdon, llestri, a chyllyll a ffyrc.
Cewch frecwast Cymreig llawn am bris gostyngedig wrth archebu ystafell fflat-gwesty gyda ni, ynghyd â chyfle i fwynhau rhamant machlud haul dros Fae Ceredigion yng Ngwesty’r Marine yn Aberystwyth, lle rydym yn ymdrechu i sicrhau bod pob arhosiad yn un cofiadwy.
Nid yw’r ystafelloedd fflat-gwesty ar ein system archebu ar hyn o bryd, ond cysylltwch â ni yn uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth, ac i holi am argaeledd a phrisiau.
Ffoniwch ni ar 01970 612444 neu anfonwch neges e-bost