CYNADLEDDAU

Yng Ngwesty'r Marine rydym wedi bod yn ychwanegu gwerth at ddigwyddiadau corfforaethol a chynadleddau ers dros ddegawd. Mae dyfnder ein profiad ac ehangder ein cleientiaid o bob cwr o Gymru yn golygu ein bod yn gyfarwydd â chynnal digwyddiad llwyddiannus. Os ydych chi'n ystyried cynnal digwyddiad o sesiwn hyfforddi bach i gynhadledd fwy, cyfarfod, seminar neu unrhyw fath o ddigwyddiad yng Nghymru, mae Gwesty'r Marine yn lleoliad perffaith i chi. Wedi'i leoli yn nhref Prifysgol hyfryd Aberystwyth, mae'r Marine yn lleoliad canolog ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yng Nghymru neu Ganolbarth Lloegr. Mae'r orsaf drenau a bysiau o fewn 5 munud ar droed o'r Gwesty ac mae digon o barcio am ddim ar gael i'n gwesteion.

Mae detholiad eang o opsiynau arlwyo ar gael i chi hefyd o de prynhawn, carferi , bwffe, a chiniawa ffurfiol; gyda detholiad o fwydlenni ar gael neu gallwn greu bwydlen gyda chi os byddwch chi'n edrych am rywbeth gwahanol.

Mae ein 60 o ystafelloedd a fflatiau ensuite hefyd yn cynnig llety a chyfleusterau o'r safon uchaf, gan gynnig cyfle i gynrychiolwyr aros cyn neu ar ôl y digwyddiad, yn ddelfrydol ar gyfer y rheini sy'n teithio'n bell. Rydym yn cynnig prisiau arbennig ar gyfer gwesteion sy'n mynychu digwyddiad neu achlysur arbennig gyda ni yn y Marine, ond rhaid cadw lle yn uniongyrchol ar 01970 612444.

Mae gennym bedair ystafell bwrpasol sy'n addas ar gyfer unrhyw ddigwyddiad a gallwn gynnig:

  • Wi-Fi am Ddim
  • Taflunydd a Sgrin
  • Siartiau Troi a Phennau
  • Aerdymheru
  • Digon o le parcio am ddim
  • Cyfleusterau Cwbl Hygyrch
  • Arlwyo
  • Pecynnau Llety i gynnwys Swper neu Wely a Brecwast yn unig

  

Ystafell Ddawns

mudiad meithrin conference.jpg

 

Mae hon yn ystafell fawreddog, gyda'i nenfydau uchel, golau naturiol ac arddull traddodiadol ac mae'n ystafell wych i gynnal eich cynhadledd neu ddigwyddiad, sy'n eistedd hyd at 240 o bobl. Gall yr Ystafell Ddawns eistedd hyd at 150 ar ffurf ystafell ddosbarth, neu 300 ar ffurf theatr, gellir addasu'r ystafell hon i fodloni'ch anghenion gyda'r hyblygrwydd i rannu'r ystafell a gweithio gyda gwahanol gynlluniau.

Yr Ystafell Fwyta

class room style conference Ceredigion.JPG

 

 

Mae'r Ystafell Fwyta yn cynnig teimlad cynnes mwy modern, yn lliwiau Bae Ceredigion. Mae gan yr ystafell hon ffenestri bae mawr ac mae'n llawn golau naturiol a dyma'r ystafell fwyaf cyfforddus ar gyfer eich cwrs hyfforddi, cyfarfodydd neu arddangosfeydd. Gall yr Ystafell Fwyta eistedd hyd at 120 o bobl a gellir ei rhannu a'i gwneud yn fwy cartrefol ar gyfer grwpiau o lai na 50 o bobl, neu gellir ei gosod i hyd at 50 ar ffurf ystafell y bwrdd, ac mae cynlluniau eraill yn bosibl.

 

 
 

BYDDEM YN FALCH O’CH CROESAWU YNG NGHWESTY’R MARINE I WELD EIN CYFLEUSTERAU NEU CYSYLLTWCH Â NI I DRAFOD GYDA’N CYDLYNYDD DIGWYDDIADAU PROFIADOL A CHYFEILLGAR A ALL GYNNIG Y GEFNODAETH BROFFESIYNOL SYDD EI HANGEN ARNOCH CHI I GYNLLUNIO A CHYNNAL EICH DIGWYDDIAD, GAN SICRHAU BOD POPETH YN MYND YN RHWYDD, A GALLWN DEILWRA PECYN AR EICH CYFER CHI.