01970 612 444
[email protected]
Ein gwefan bythynnod - www.aberholidaycottages.com
Mwynhewch arhosiad hamddenol yn un o'n bythynnod hunanddarpar mewn lleoliadau penigamp ar draws ardal Aberystwyth.
Mae gennym ystod o wyliau hunanddarpar yn Aberystwyth, gyda bythynnod, byngalos a thai sy'n cysgu rhwng 2 a 20 o bobl; sy'n golygu bod ein bythynnod, fflatiau a thai fferm yn lleoliad perffaith ar gyfer eich gwyliau. Pa un a ydych chi i ffwrdd ar wyliau antur neu eich gwyliau blynyddol i'r teulu - ein nod yw darparu ar gyfer pawb.
Mae ein bythynnod i gyd o fewn 3 milltir i dref Aberystwyth ei hun. Mae gennym dros 20 eiddo yn amrywio o fyngalo bendigedig gyda sba nofio mewn ardal wledig i ffermdai mawr ac adeiladau allan wedi'u hadnewyddu gyda golygfeydd godidog o'r cefn gwlad amgylchynol. Nod ein heiddo yw darparu ar gyfer pob angen - o'r rheini sydd angen gardd fawr ar gyfer plant neu anifeiliaid, i'r rheini sydd angen mynediad i'r anabl neu'n syml y rheini sydd eisiau llety gwledig tawel - mae digon o ddewis ar gael! Yn syml, rhowch wybod i ni beth yr ydych chi ei angen a cheisiwn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer. Mae gennym nifer o eiddo cyfeillgar i anifeiliaid sy'n golygu y gallwch ddod â'ch anifail ar wyliau gyda chi. Neu mae gennym hefyd sawl Llety sy'n cysgu rhwng 4 a 8 o bobl sydd ar gyllideb dynn.
Mae croeso i chi anfon ymholiad atom, naill ai gan ddefnyddio'r ffurflen o dan "Cysylltwch â Ni" neu yn syml trwy anfon e-bost at [email protected] - byddwn yn ateb cyn gynted â phosibl. Os hoffech chi gadw lle ar-lein, ewch i'n tudalen Cadw Lle, sy'n dangos a yw llety ar gael a hefyd y prisiau ar gyfer gwyliau wythnos o hyd neu seibiannau byrrach yn dechrau o Ddydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener. Os oes gennych unrhyw ofynion eraill, mae croeso i chi gysylltu â ni!
Mae gennym garafanau a gwersylla yn Aberystwyth, wrth ymyl Bythynnod Gwledig Bryncarnedd sydd ar agor trwy gydol y flwyddyn. Serch hynny, nid ydym yn llogi carafanau, ond mae gennym blotiau ar gyfer carfanau teithiol a hefyd yn barod i storio unrhyw garfanau teithio neu garafanau ar y safle.
Mae gwersylla yn £7.50 y pen y noson, ac ni chodir tâl am anifeiliaid anwes.
Mae plotiau carfanau/carfanau teithiol yn £17.50 y noson gyda chysylltiad trydan. Os ydych chi'n dymuno aros yn hir, ffoniwch gan y bydd ein cyfraddau yn wahanol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni neu ffoniwch 01970 610990.
Os nad oes argaeledd ar-lein mae'n werth ein ffonio ni i weld a oes lle ar gael i chi gan ein bod ni yn derbyn cansladau ac nid yw'r Bythynnod yn mynd yn ôl ar-lein yn awtomatig i'w gwerthu!
Os oes gennych unrhyw geisiadau penodol neu ofynion, gofynnwn i chi ein ffonio ni ar 01970 610990
sydd â'r holl Fythynnod ar gael gennym yn Aberystwyth a'r ardal