YSTAFELLOEDD GWELY
Mae Gwesty'r Marine yn westy mawr a redir gan deulu yn Aberystwyth, adeilad Fictorianaidd unigryw ar y Prom. Mae'r holl ystafelloedd yn unigryw yma yn y Marine, ac rydym yn ymdrechu i gadw at steil yr adeilad ac mae pob ystafell yn amrywio yn ei haddurn a'i maint... Cred llawer fod hyn yn ychwanegu at apêl a swyn y gwesty. Mae gennym adain newydd i'r gwesty gydag ardal deras ble y gallwch chi gamu allan iddi - yn berffaith ar gyfer y gwesteion hynny sy'n ysmygu - gan fod ein holl ystafelloedd yn rhai dim ysmygu.
Mae gennym chwe deg o ystafelloedd gwely a fflatiau wedi'u cynllunio'n unigol o fewn y gwesty. Mae rhai pethau i'w gweld ym mhob ystafell: Gwelyau cyfforddus gyda dillad gwely cotwm cras, cawod a/neu fath, teledu digidol, Wi-Fi am ddim a chyfleusterau te a choffi i enwi ond rhai. Gyda lifft i bob ystafell, mae gennym sawl ystafell hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn neu mae gennym rai ystafelloedd sy'n fwy addas i'r rheini gyda phroblemau cerdded/symudedd - rhowch wybod i ni wrth gadw'ch lle a gwnawn ein gorau i sicrhau ein bod yn bodloni'ch anghenion.
Mae ein cyfraddau yn cynnwys brecwast carferi Cymreig llawn, ac os byddwch chi'n gadael y gwesty yn gynnar iawn, gallwn drefnu pecyn brecwast i chi fynd gyda chi ar eich taith neu gallwch archebu pecyn cinio.
Er mwyn sicrhau bod eich arhosiad yn un arbennig iawn gallwn drefnu brecwast siampen yn y gwely neu flodau yn eich ystafell erbyn i chi gyrraedd!
YSTAFELL FOETHUSMae'r rhan fwyaf o'n Hystafelloedd Moethus yn mwynhau golygfa wych o Fae Ceredigion. Maen nhw'n cynnwys gwely nodwedd mawr - rhai gyda phedwar postyn a bath jacwsi neu fath moethus fel pleser ychwanegol!
|
YSTAFELL WEITHREDOL(HYBLYG)Ein hystafelloedd Gweithredol yw ein hystafelloedd mwy gyda gwelyau brenin mawr y gellir naill ai fod yn efell neu wely brenin mawr. Mae rhan fwyaf o ein Ystafelloedd Gweithredol gyda olygfa o'r môr. |
YSTAFELL DDWBL/GEFELLMae ein hystafelloedd dwbl a gefell safonol yn ystafelloedd cyfforddus ar amryw loriau. Mae gan rai Golygfeydd o'r Môr ac mae gan yr ystafelloedd tawelach olygfa dros gefn y gwesty, ond cofiwch nodi wrth gadw lle i sicrhau golygfa o'r môr.
|
TRYDYDD LLAWRYSTAFELL DDWBL/GEFELLYr ystafelloedd ar ein trydydd llawr yw ein hystafelloedd mwyaf dymunol, wedi'u lleoli ar drydydd llawr y gwesty, gyda ffenestr dormer a nenfwd ar lethr. Rydym hefyd yn caniatáu Anifeiliaid Anwes yn yr ystafelloedd hyn am gost ychwanegol o £10.00 y noson
|
YSTAFELL GOMPACTMae ein hystafelloedd compact yn cynnwys gwely dwbl bach, ystafell berffaith ar gyfer teithwyr sengl, ond mae lle i ddau. Mae gennym sawl un gyda Golygfeydd o'r Môr.
|
YSTAFELL SENGLMae ein hystafelloedd Sengl i gyd wedi'u lleoli yng nghefn y gwesty, ac yn amrywio yn eu maint, ac mae gennym nifer wedi'u lleoli wrth ymyl y lifft ar gyfer gwesteion gyda phroblemau symudedd.
|
YSTAFELL DRIPHLYGMae ein hystafell Driphlyg yn cynnwys gwely dwbl a sengl - mewn lleoliadau amrywiol o fewn y gwesty, y rhan fwyaf gyda naill ai ffenestr fae neu ffenestr dormer yn edrych allan ar Fae Ceredigion.
|
SWÎT I'R TEULUMae gan ein Swît i'r Teulu ddwy ystafell wely gyfagos sy'n rhannu cyfleusterau ystafell ymolchi. Maen nhw'n amrywio yn nhrefniant y gwelyau ond gallant gysgu hyd at 5 neu 6 o bobl. Mae gennym un Swît i'r Teulu gyda chyfleusterau hygyrch.
|
YSTAFELL I'R TEULUMae ein Hystafelloedd i'r Teulu yn cynnwys un ystafell wely fawr sy'n amrywio yn nhrefniant y gwelyau a gallant gysgu rhwng 4 a 5 o bobl. Gofynnwch i'n tîm am gynllun yr ystafell wely i gyd-fynd ag anghenion eich teulu/grŵp. Rydym hefyd yn caniatáu i oedolion rannu ein hystafelloedd i'r teulu. |
|
YSTAFELLOEDD FFLAT-WESTYGYDA CHYFLEUSTERAU CEGINGyda'n prosiect diweddaraf mae gennym dair ystafell/swît a all gysgu rhwng 2 a 4 o bobl sy'n cynnwys soffa a chyfleusterau cegin compact i gynnwys cysur ychwanegol ac annibyniaeth yn ystod eich arhosiad. |
|
MAE GENNYM LIFFT I'N HOLL LORIAU YN Y PRIF WESTY ER HWYLUSTOD I CHI