ACHLYSURON A DIGWYDDIADAU

Os ydych chi'n cynnal digwyddiad - dyma'r lle i chi! Rydym yn helpu i ddathlu:

  • pen-blwydd priodas
  • dyweddïad neu briodas
  • bedydd
  • pen-blwydd
  • ymddeoliad

Mae gennym ystod eang o fwydlenni ar gael i chi, ond os hoffech chi rywbeth gwahanol neu eisiau addasu ein bwydlenni rydym yn fwy na pharod i weithio gyda chi i greu'r fwydlen berffaith ar gyfer eich Achlysur neu Ddigwyddiad Arbennig o fewn eich cyllideb. Yn yr un modd os oes gennych chi neu unrhyw un yn eich parti unrhyw ofynion dietegol arbennig, rhowch wybod i ni a gwnawn ein gorau i ddarparu prydau amgen.

Ymhlith yr ystod eang o Fwydlenni yr ydym yn eu cynnig y mae:

  • bwffe bys neu gyllell a fforc,
  • cinio eistedd 2 neu 3 chwrs
  • rhost mochyn
  • carferi poeth
  • te prynhawn
  • cawl a brechdanau

Gallwn ddarparu diodydd croeso i'ch parti, gan gynnwys gwinoedd, siampen, gwin cynnes, pimm's, buck fizz, sudd ffrwyth neu unrhyw un o'ch ffefrynnau os nad yw wedi'i restru yma.

Mae croeso i chi ychwanegu addurniadau bwrdd ac os ydych chi'n dymuno cael trefniadau blodau penodol, balŵns neu gacen i ddathlu, gallwch chi eu trefnu eich hunan. Gallwn argymell sefydliadau yn lleol a all eich cynorthwyo chi â'r rhain. Rydym yn cynnig defnydd di-dâl ar ein stand a chyllell gacen, ac ystod eang o liwiau i ddewis ohonynt ar gyfer eich napcynnau er mwyn gwneud y digwyddiad yn arbennig a phersonol iawn!

ANGLADD

Rydym yma i'ch cefnogi chi a byddwn yn sicrhau awyrgylch groesawus i'ch teulu a'ch ffrindiau i hel atgofion. Mae gennym 4 ystafell ddigwyddiadau ar gael sy'n addas ar gyfer casgliad bychan neu gasgliad mawr, ac mae ein lleoliad canolog yn golygu bod modd ein ffeindio ni'n hawdd ac rydym yn cynnig lle parcio di-dâl yn y gwesty i'r holl westeion.

Mae gennym becynnau dethol a gobeithiwn y byddant yn bodloni'ch gofynion, ond os oes unrhyw beth gennych mewn golwg, rhowch wybod i ni a byddem yn barod iawn i'ch cynorthwyo gyda'ch anghenion.

Pa un a ydych chi'n cynllunio Parti Preifat i 10 neu 250, rydym eisiau sicrhau ei fod yn ddigwyddiad arbennig a pherffaith ar eich cyfer chi.

Eich cam cyntaf yw trefnu ymweliad Â ni i drafod eich syniadau neu cysylltwch Â ni ar 01970 612444 i ddechrau ar y cynllunio!

 

TOCYNNAU RHODD

Mae tocynnau rhodd bob amser yn anrheg berffaith beth bynnag fo'r achlysur ac yn ddewis poblogaidd ar gyfer aelod o'r teulu, ffrind neu gydweithiwr sydd â phopeth.