01970 612 444
[email protected]
P'un a fyddwch yn mwynhau seibiant byr yn ein gwesty, yn ymweld â ni am brynhawn o ymlacio, neu yno i ddefnyddio'r gampfa, bydd ein cyfleusterau Sba newydd sbon yn cynnig profiad moethus a heddychlon i chi.
Mae ein Sba arfordirol yn cynnig yr encilfa berffaith i chi ymlacio ac ymbleseru ynddi, gan fanteisio ar driniaethau esmwythaol. Bydd preifatrwydd y cyfleusterau tanddaearol yn eich galluogi i ddatgysylltu'n llwyr oddi wrth brysurdeb eich bywyd bob dydd.
Manteisiwch ar driniaeth Tylino'r Wyneb neu Dylino Swedaidd i leddfu eich straen a bwrw eich blinder, a mwynhewch de a choffi arbenigol i'ch helpu i adennill eich egni.
Gall westeion y Gwesty ddefnyddio ein cyfleusterau Sba yn rhad ac am ddim pan yn archebu ystafell yn uniongyrchol trwy'r gwesty* (fydd tâl yn cael eu codi os ydych wedi archebu eich ystafell trwy drydydd parti/asiantaethau partneriaid/systemau archebu). Gallwch archebu amser ymlaen llaw er mwyn defnyddio'r cyfleusterau trwy gysylltu â ni cyn cyrraedd neu wrth y dderbynfa'r gwesty.
Maldodwch eich hun trwy fanteisio ar ein sawna isgoch, ein seddau lledorwedd cynnes, ein sba traed, a'n jacŵsi sy'n cynnwys 16 o seddau.
Dydd Llun i Ddydd Sul
8yb-8yp
Ni chaniateir plant o dan 16 oed yn y Sba a Champfa, ond mae rhai triniaethau yn addas - gofynnwch am fwy o wybodaeth.
Ganol Wythnos & Penwythnos i'r Sba – £25.00 (90 munud)
Treatment list coming soon...
Ffitrwydd a Maethiad
Cysylltwch â ni i wneud ymholiad.
Dilynwch eich tudalen Facebook am y newyddion diweddaraf a chynigion y Sba