PETHAU I'W GWNEUD
Rainwild SpaP'un a fyddwch yn mwynhau seibiant byr yn ein gwesty, yn ymweld â ni am brynhawn o ymlacio, neu yno i ddefnyddio'r gampfa, bydd ein cyfleusterau Sba newydd sbon yn cynnig profiad moethus a heddychlon i chi. |
|
|
Safari'r CambriaYn teithio ar hyd tirluniau naturiol hyfryd mynyddoedd y Cambria, mae Safaris y Cambria yn cynnig cyfle gwych i weld golygfeydd, hanes a bywyd gwyllt Cymru. Gallai'r profiad hwn fod yn werthfawr i ffans y gyfres deledu 'Y Gwyll' gan fod y daith yn cynnwys lleoliadau sydd wedi'u defnyddio yn y sioe. |
|
Canolfan y Barcud CochYn teithio ar hyd tirluniau naturiol hyfryd mynyddoedd y Cambria, mae Safaris y Cambria yn cynnig cyfle gwych i weld golygfeydd, hanes a bywyd gwyllt Cymru. Gallai'r profiad hwn fod yn werthfawr i ffans y gyfres deledu 'Y Gwyll' gan fod y daith yn cynnwys lleoliadau sydd wedi'u defnyddio yn y sioe. |
|
PontarfynachMae Pontarfynach wedi'i leoli ar gyrion Aberystwyth ac fe argymhellir ymweliad. Daw enw'r bont o'r chwedl Gymreig enwog am ymweliad cyntaf y diafol â Chymru a'i ymgais aflwyddiannus i dwyllo hen wraig. Mae tair pont yno, yn ogystal â rhaeadrau hyfryd a golygfeydd o harddwch naturiol |
|
Llyfrgell Genedlaethol CymruMae'r Llyfrgell yn gartref i'r casgliad mwyaf o lyfrau unrhyw le yng Nghymru, ac mae'r lle yn brofiad ysbrydoledig i unrhyw ddarllenwr brwd. Ymhlith y darnau nodedig y mae'r llyfr cyntaf erioed i'w argraffu yn Gymraeg, a gyhoeddwyd ym 1546 ac sydd yn y llyfrgell er 1908. Hefyd ceir nifer o weithgareddau sy'n addas i'r hen a'r ifanc. |
|
Rheilffordd y GraigFe'i sefydlwyd ym 1896, ac mae rheilffordd y graig yn dringo Craig-lais, gan gynnig golygfeydd syfrdanol o'r dref islaw, bae Ceredigion ac ar ddiwrnod clir, 26 copa sydd i'w gweld ar draws Cymru. Ar ôl cyrraedd y copa gall ymwelwyr ymlacio a mwynhau'r olygfa o'r caffi. Mae ardal chwarae hefyd i'r rheini sydd â phlant. |
|
Llwybr yr ArfordirMae llwybr yr arfordir Gorllewin Cymru yn ffordd hyfryd o weld peth o'r tirlun naturiol gorau sydd gan Gymru i'w gynnig. Gyda sawl taith gerdded i ddewis ohonynt, boed yn hir neu'n fyr, mae hwn yn ffordd wych o dreulio'r diwrnod yn mwynhau hanes a bywyd gwyllt cyfoethog, o gaerau o'r oes haearn, i gipolwg o ddolffiniaid, mae rhywbeth ar gael i bawb. |
|
Gardd Fotaneg Genedlaethol CymruWedi ei lleoli mewn rhan hynod o brydferth o Sir Gâr, mae’r Ardd yn gyfuniad difyr o’r cyfoes a’r hanesyddol. Cewch weld amrywiaeth o erddi wedi ei seilio ar themáu penodol, y tŷ gwydr un-rhychwant mwyaf yn y byd, ardaloedd chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol; Plas Pilipala; a lleolir y cwbl mewn tirwedd a grëwyd yn wreiddiol yng nghyfnod y Rhaglywiaeth. Mae’n llwyfan ardderchog ar gyfer rhaglen sy’n gyforiog o ddigwyddiadau a chyrsiau ar hyd y flwyddyn. |
|
Park RunYn croesawu rhedwyr newydd a rhedwyr profiadol, mae Park Run Aberystwyth yn 5k cyfeillgar a gynhelir bob bore Sadwrn yn y parc lleol. Gan fod y digwyddiad yn cael ei amseru gan wirfoddolwyr Park Run, mae'n bwysig cofrestru o flaen llaw er mwyn cadw cofnod o'r rheini sy'n cymryd rhan a'u hamserau. Gellir gwneud hyn trwy eu gwefan - mae'r ddolen uchod. |
|
AMGUEDDFA CEREDIGIONWedi'i lleoli yng nghanol Aberystwyth ac yn cynnwys arddangosfeydd sy'n amrywio o arteffactau Celtaidd i gelfyddyd fodern, mae Amgueddfa Ceredigion yn cynnwys cyfoeth o arddangosfeydd diddorol i bawb eu gweld. Yn ogystal â'u harddangosfeydd parhaol, mae'r amgueddfa hefyd yn cynnwys nifer o arddangosfeydd dros dro, am fanylion pellach edrychwch ar eu tudalen 'beth sy'n digwydd' yma. Gyda mynediad am ddim, does dim rheswm i chi beidio ag ymweld. |
|
Sw'r BorthYchydig filltiroedd o Aberystwyth, mae sw'r Borth yn atyniad perffaith i deuluoedd gyda detholiad trawiadol o anifeiliaid. Un o'r uchafbwyntiau yw llewod Affricanaidd ifanc a ddaeth i'r sw eleni. Yn ychwanegol mae sioe ymlusgiaid sy'n rhoi cyfle i ymwelwyr ddal madfallod a nadroedd, amser bwyd ble gall yr ymwelwyr weld rhai o'r anifeiliaid mwyaf peryglus yn cael eu bwydo, a hyd yn oed sesiynau mwytho merlod a chwningod. |
|
West Wales KartingAr gyfer y rheini sydd eisiau profi ychydig o adrenalin, mae West Wales Karting yn cynnig amgylchedd saff a diogel ble y gallwch rasio; yr unig drac ardystiedig NKA yn Sir Benfro, dyma'r gorau yn ei faes. I'r rheini nad ydynt eisiau rasio, mae ardal wylio ar ochr y trac ble y gellir mwynhau lluniaeth wrth wylio'r ras. |
Aber OutdoorMountain biking in Wales is great fun, and Aberystwyth is the perfect place to start. Therefore, Aber Outdoor is the place to hire your mountain bikes in Aberystwyth |