PRIODASAU

Rydym wrth ein bodd â phriodasau yma yn y Marine ac yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn un o'r lleoliadau priodasau mwyaf profiadol yng Ngheredigion gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda phriodferched, priodfeibion a'u teuluoedd. Mae'n ymddangos fod pawb yn yr ardal naill ai wedi cynnal eu priodas yna, wedi mynychu priodas yma neu yn adnabod cwpwl sy'n bwriadu cynnal eu diwrnod arbennig yma.

Gall darpar gyplau fod yn hyderus o'u hymholiad cyntaf oll hyd at y diwrnod ei hun, bydd ein harbenigedd yn sicrhau achlysur llwyddiannus a chofiadwy. Rydym yn lleoliad trwyddedig ar gyfer y seremoni ei hun. Bydd dathlu'ch priodas yn y Marine yn golygu bod modd cynnal y seremoni, y wledd, yr adloniant a'r llety i gyd yn yr un lle. Heb orfod teithio o un lle i'r llall, gallwch ymlacio gyda'ch ffrindiau a'ch teulu a mwynhau'ch diwrnod arbennig i'r eithaf. 

Pa un a ydych chi'n cynllunio priodas fach neu fawr, rydym ni yma i'ch helpu chi i greu diwrnod i'w gofio ar eich cyfer chi a'ch gwesteion. Mae'r Marine wedi'i leoli ar y promenâd Fictoraidd mawr, a chanddo olygfeydd trawiadol. Mae gan ein Hystafell Fwyta a'r Bistro olygfeydd o'r môr, ac mae ein Hystafell Ddawns yr Iwerydd yn gwneud defnydd gwych o olau dydd naturiol. Mae digon o gyfleoedd i dynnu lluniau, o'r promenâd ei hun i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, y Castell a Chraig-lais ble mae'r golygfeydd ar draws Aberystwyth yn gefnlen wych i unrhyw lun priodas!

Rydym yn cynnig prisiau arbennig i westeion priodas sy'n mynychu'ch Diwrnod Arbennig, ond rhaid i westeion gadw lle yn uniongyrchol gyda ni er mwyn derbyn y disgownt.

YSTAFELL DDAWNS

Mae ein Hystafell Ddawns, sydd newydd ei hymestyn, bellach yn cynnig cyfleuster i westeion priodas ddefnyddio'r bar heb adael yr ystafell! Mae ein hystafell fwyaf a mwyaf mawreddog gyda nenfydau uchel, a ffenestri o'i hamgylch, yn hynod olau gyda golau naturiol yn ystod y dydd ac mae lle i hyd at 220 o westeion ar gyfer Gwledd Priodas a hyd at 300 o westeion ar gyfer y Parti Nos. Mae'r hyblygrwydd i ddewis o ystod o gynlluniau o fyrddau crwn i fyrddau hir neu sgwâr yn yr Ystafell Ddawns i gyd-fynd â'ch cynllun bwrdd.

YR YSTAFELL FWYTA

Mae'r Ystafell Fwyta yn edrych dros Fae Ceredigion, ac mae lle i hyd at 120 o westeion ar gyfer pryd o fwyd, a 150 o westeion ar gyfer y Parti Nos. Rydym wedi ein trwyddedu i gynnal Seremonïau Sifil yn ein Hystafell Fwyta o 50 i 120 o westeion. Mae ein Hystafell Fwyta yn lleoliad trawiadol sy'n caniatáu i chi gerdded i lawr yr eil tuag at gefnlen hyfryd Bae Ceredigion.

Gallwch naill ai barhau a'ch dathliadau yn yr Ystafell Fwyta ar ôl eich seremoni neu yn Ystafell Ddawns yr Iwerydd. Trwy briodi yn yr un lleoliad a'ch gwledd briodas, gall eich gwesteion ymlacio a dechrau dathlu. A gyda'r Promenâd, Castell Aberystwyth a Chraig-lais dafliad carreg i ffwrdd, mae Gwesty'r Marine yn lleoliad perffaith i'ch lluniau priodas.

 

 

Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n gweld y lleoliad cyn gwneud y penderfyniad mawr, felly hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i'ch gwahodd chi i'r gwesty i'ch tywys o'i amgylch ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi am eich Diwrnod Arbennig!

PRIODASAU YN Y MARINE

 

Er mwyn cael syniad o gynlluniau ac arddulliau'r ystafelloedd sydd ar gael ar gyfer eich Diwrnod Arbennig, edrychwch trwy ein casgliadau priodas:

Oriel Briodas

 

LLYFRYN PRIODAS

I weld ein Llyfryn Priodas 

Cliciwch yma i weld y ddolen

 

pink bubbly.jpg

 

Cysylltwch a ni

cysylltwch a ni ar 01970 612444 am eich priodas ddelfrydol

Pwyswch yma am ein ffurflen cyswllt